1,2,3,4,(5,6). Yn mhell uwch swn daearol fyd, Mae fy nhrysorau oll i gyd; Y wlad lle mae, y wlad lle mae, Rhyw fôr didrai o berffaith hedd. Wel dacw'r man tra paro chwyth, Sycheda' am fod ynddo byth; Fe dry fy ngwae, fe dry fy ngwae, Yn llawenhau yn nhŷ fy Nhad. Mi gofiaf yno am y dydd, Y rhoed fy llyffetheiriau'n rhydd; Ac am y gair, ac am y gair, Dedwyddaf bair ei gofio byth. O ddedwydd, hapus, berffaith le Mae f'enaid eisoes ynddo fe! Cwmpeini Nuw, cwmpeini Nuw, Yw'r cyfan yw sydd yno i gael. Ffarwel i oll feddylia'i fod Yn hyfryd yma îs y rhod; Nid da, nid dyn, nid da, nid dyn, Ond Iesu ei Hun sy'n fwy na'r nef. 'R wy'n awr ar adain ysgafn ffydd Yn edrych ar drysorau fydd; Mae llawer mwy, mae llawer mwy Mewn marwol glwy' nag fedd y byd. - - - - - Y'mhell uwch sŵn daearol fyd, Mae fy nhrysorau oll i gyd; Y wlad lle mae, y wlad lle mae, Rhyw for didrai o berffaith hedd. Wel, dacw'r man, tra paro chwyth, Sychedaf am fod ynddo byth; Fe dry fy ngwae, fe dry fy ngwae, Yn llawnhau yn nhŷ fy Nhad. Ffarwel i oll feddyliaf fod Yn hyfryd yma îs y rhod; Nid da nid dyn, nid da nid dyn, Ond Iesu ei hun sy fwy na'r nef. Yn awr ar aden ysgafn ffydd Edrychaf ar drysorau fydd; Mae llawer mwy, mae llawer mwy, Mewn marwol glwy' nag fedd y byd.William Williams 1717-91 Tôn [MH 8888]: Islington (<1835) gwelir: O fewn i'r anial dyrys maith Tydi fy Nuw Tydi i gyd |
Far above the noise of an earthly world, Is all my treasure altogether; The land where is, the land where is Some unebbing sea of perfect peace. Now see the place, while breath persists, I thirst to be in forever; My woe shall turn, my woe shall turn, Into joy in the house of my Father. I shall remember there the day, My fetters were set free; And the word, and the word, I shall say that shall cause its memory forever. O blessed, happy, perfect place My soul is already in it! My God's company, my God's company, Is the whole there is there to get. Farewell to all I think of being Delightfully here under the sky; Not goods, not man, not goods, not man, But Jesus himself is greater than heaven. I am now on the light wings of faith Looking upon treasures that shall be; There is much more, there is much more In a mortal wound than the world possesses. - - - - - Far above the noise of an earthly world, Is all my treasure altogether; The land where is, the land where is Some unebbing sea of perfect peace. See, there is the place, while breath persists, I thirst to be in forever; My woe shall turn, my woe shall turn, Into joy in the house of my Father. Farewell to all I think of being Delightfully here under the sky; Not goods, not man, not goods, not man, But Jesus himself is greater than heaven. Now on the light wing of faith I look upon treasures that shall be; There is much more, there is much more In a mortal wound than the world possesses.tr. 2024 Richard B Gillion |
|